image

Gwybodaeth

Llawlyfr 2023-2024

 

I lawrlwytho'r llawlyfr fel pdf, cliciwch yma.

Gweledigaeth - Ysgol y Gorlan

Yma, yn Ysgol y Gorlan byddwn yn darparu profiadau sy'n sicrhau bod ein plant yn gadael addysg gynradd yn ddysgwyr parchus ac iach, hapus a balch, caredig ac empathetig; dysgwyr sy'n gallu chwarae a dysgu gyda phawb tra hefyd bod yn annibynnol. Mewn ardal sydd yn gyfoethog ei hanes, ei chymuned a’i Chymreictod, anelwn i gyflwyno profiadau ysgogol, a mynnu safonau uchel er mwyn i’n dysgwyr wynebu heriau byd sy'n gyson newid a datblygu.

Mae adnabyddiaeth o’r adral leol yn amhrisiadwy, fel ein bod, maes o law yn gallu cyfrannu yn ôl i'n cymuned leol. Byddwn hefyd yn lledaenu gorwelion ein plant tuag at ymwybyddiaeth Cenedlaethol a rhyngwladol. Ein nôd yw bod bob plentyn yn dilyn cryfderau a dyheuadau ei hun gan feithrin atebolrwydd o gyfrifoldeb personol ac empathi tuag at eraill. Trwy wneud defnydd o’r tir gwyrdd a’r goedwig sydd gennym, mae gofalu am ein gilydd a'n byd yn flaenoriaethau parhaol yma.

Ymfalchîwn yn ethos gynhaliol yr ysgol - 'rydym yn bwydo’r galon er mwyn bwydo’r dysgu ac yn hynny o beth, yn meithrin uniogolion gwâr o gymdeithas.